Teitl y grŵp trawsbleidiol: |
Y Sector Gweithgareddau Awyr Agored yng Nghymru |
Dyddiad y cyfarfod: |
12 Gorffennaf 2022 |
Lleoliad: |
Ar Zoom
|
Enw: |
Teitl: |
Huw Irranca-Davies (HI-D) |
Cadeirydd – Aelod o'r Senedd |
Sam Rowlands (SR) |
Is-gadeirydd – Aelod o'r Senedd |
Julie James |
Y Gweinidog Newid Hinsawdd |
Rebecca Brough |
Ysgrifenyddiaeth – Ramblers Cymru |
Aled Hughes |
Swyddfa Cefin Campbell AS |
Evan Waters |
Swyddfa David Rees AS |
Paul Renfro |
Aelod – Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro a Chynrychiolydd Fforwm Arfordirol Sir Benfro |
Eben Muse |
Aelod – Cynrychiolydd Cyngor Mynydda Prydain |
Kate Ashbrook |
Aelod – Cynrychiolydd Cymdeithas y Mannau Agored |
Catherine Williams |
Aelod – Cynrychiolydd Eryri-Bywiol a Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru |
Angela Charlton |
Aelod – Cynrychiolydd Cerddwyr Cymru |
Helen Donnan |
Aelod – Cynrychiolydd Cymdeithas Ceffylau Prydain |
Andy Taylor |
Aelod – Cynrychiolydd Pwyllgor Cynghorol y Diwydiant Gweithgareddau Antur a Gwerin y Coed |
Mark Jones |
Aelod – Cynrychiolydd y Bartneriaeth Awyr Agored |
Mike Rosser |
Aelod – Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored a Chynrychiolydd Adventure UK |
Emma Edwards-Jones |
Aelod – Cynrychiolydd Eryri-Bywiol |
Alison Roberts |
Sylwedydd – Cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru |
Phil Stone |
Aelod – cynrychiolydd Canŵ Cymru |
Chris Munro |
Aelod – Cynrychiolydd y Gymdeithas Hwylio Frenhinol |
Simon Patton |
Aelod – Cynrychiolydd Hyfforddiant Mynydda Cymru |
Amanda Smith |
Aelod – Cynrychiolydd CAT ZCB |
Paul Frost |
Aelod – Cynrychiolydd y Bartneriaeth Awyr Agored |
Steve Morgan |
Aelod – Cynrychiolydd Plas Menai |
Sarah Smith |
Sylwedydd – swyddog Llywodraeth Cymru |
Simon Pickering |
Sylwedydd – swyddog Llywodraeth Cymru |
Lara Stace |
Sylwedydd – Deryn Consulting |
Crynodeb o'r cyfarfod
Derbyniwyd y cofnodion blaenorol fel rhai cywir.
Camau a gododd yn flaenorol:
1. Anfonwyd llythyr at aelodau cabinet Llywodraeth Cymru – gan gynnwys y Prif Weinidog – ynghylch gweithgareddau awyr agored ac addysg. Cafwyd ymatebion gan Vaughan Gething a Jeremy Miles.
2. Aelodau o Grŵp Trawsbleidiol y Senedd i chwilio am gyfle i drafod: Eir ar drywydd hyn yn nhymor yr hydref, a’i gysylltu â materion a godwyd ym maniffesto’r Gynghrair Awyr Agored 2021.
3. Diweddariad ar ymchwil i werth economaidd a chymdeithasol yr awyr agored: Cylchredwyd y lincs ymchwil presennol a gwahoddwyd yr Aelodau i rannu rhagor.
Cyflwyniad
Agorodd cynrychiolwyr defnyddwyr hamdden y cyfarfod gyda ffilm fer yn amlinellu pam mae angen diwygio mynediad, ynghyd â chyflwyniad ar y cyd ar yr angen i symud ymlaen o ran argymhellion diweddar Rhaglen y Grŵp Cynghori Diwygio Mynediad.
Dyma’r pwyntiau a godwyd yn y cyflwyniad:
· Mae diwygio mynediad yn hollbwysig er mwyn: Gwella iechyd y genedl; manteision o ran dysgu gydol oes; manteision economaidd i dwristiaeth a busnes; manteision i gadwraeth o ran ailgysylltu pobl â byd natur, yn enwedig ar ôl y pandemig.
· Mae angen buddsoddiad ac ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad teg, gwell a chyfrifol i bawb i’r tir ac i’r dŵr.
· Nid yw rhwydweithiau mynediad presennol yn cael eu hariannu’n ddigonol ac mae ansawdd yn dirywio, o ganlyniad i flynyddoedd o danfuddsoddi a phwysau defnydd cynyddol, ond mae cymunedau’n gwerthfawrogi eu mynediad i fannau gwyrdd a glas a’r manteision a ddaw yn eu sgil.
· Mae’r Llywodraeth wedi cydnabod manteision economaidd, cymdeithasol ac iechyd mynediad mewn strategaethau amrywiol: Cymru'r Dyfodol; Polisi Adnoddau Naturiol; Pwysau Iach Cymru Iach, ond mae angen diwygio a buddsoddi er mwyn gwireddu'r manteision hyn.
· Mae’r galw am weithgareddau awyr agored yn cynyddu ac mae potensial cysylltiedig ar gyfer dysgu gydol oes a diogelu’r amgylchedd, ochr yn ochr ag adeiladu gwydnwch unigol a chymunedol.
· Pwysigrwydd cyfleoedd mynediad awyr agored teg o safon i genedlaethau iau – a’r cysylltiadau byd natur a ddaw yn sgil hyn – sydd mewn perygl o ganlyniad i gau canolfannau addysg awyr agored.
· Croesawyd y ffaith bod cyfleoedd mynediad wedi’u cynnwys yn y cynllun Ffermio Cynaliadwy.
· Ym mis Tachwedd 2021, cyflwynwyd canlyniadau’r rhaglen diwygio mynediad i’r Llywodraeth, ac mae grwpiau defnyddwyr yn awyddus i weld cynnydd yn cael ei wneud ar ôl proses hirfaith a dwys o ran adnoddau i lawer o randdeiliaid.
· Mae grwpiau defnyddwyr yn meddu ar dir cyffredin ac maent yn cytuno ar lawer o gynigion yn yr adroddiad – ond lle mae gwahaniaethau’n parhau, hoffent i ni weithio gyda’n gilydd, ynghyd â’r Llywodraeth, i weld proses o dreialu atebion posibl yn mynd rhagddi, ar dir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru neu’n cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru.
· Gofynnwyd am amserlen er mwyn dwyn camau gweithredu a diwygio gan y Llywodraeth yn eu blaenau, fel y gellir sicrhau manteision ar gyfer holl ddefnyddwyr yr awyr agored.
Mewn ymateb, mae’r Gweinidog yn cydnabod ac yn diolch i’r sector awyr agored am ei waith yn cefnogi’r agenda ddiwygio, a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp:
· Mae gwaith technegol a chyfreithiol yn dal i fynd rhagddo ar y grŵp cynghori ar y cynnig diwygio mynediad.
· O ganlyniad i bwysau arall, nid oes amserlen ar gael ar gyfer bwrw ymlaen â diwygiadau, ac ni ddarperir ar eu cyfer yn rhaglen ddeddfwriaethol y ddwy flynedd nesaf.
· O ran mynediad at ddŵr, mae gwaith cwmpasu ar y gweill ac mae cyfarfod pellach wedi'i drefnu gyda Chadeirydd y Fforwm Mynediad Cenedlaethol i ystyried gwaith yn y dyfodol.
· Gofynnwyd i’r Grŵp Trawsbleidiol weithio gyda swyddogion i nodi ‘map llwybr’ o’r newidiadau hawsaf a’r opsiynau yn y tymor hwy – gan gynnwys yr hyn y gellir ei symud ymlaen heb ddiwygio’r gyfraith – a beth yw’r llwybrau deddfwriaethol cyflymaf, o ystyried capasiti’r Senedd.
· Awgrymwyd y byddai newidiadau i ganllawiau neu is-ddeddfwriaeth/rheoliadau yn haws i'w datblygu.
· Gwahoddwyd y Cadeirydd i ysgrifennu i gynnig defnyddio ystâd Llywodraeth Cymru i dreialu newidiadau.
· Mae’r ffrwd waith teithio llesol yn ceisio mynd i’r afael ag ambell fater sy’n ymwneud ag anghysondebau mewn rhwydweithiau, a sicrhau’r mynediad mwyaf posibl.
· Mae’r camau nesaf – yn dilyn adroddiad 10 mlynedd Llwybr Arfordir Cymru – o dan ystyriaeth.
· Croesewir cyngor pellach ar reoli gwrthdaro rhwng defnyddwyr, ac enghreifftiau o arfer da.
· Cydnabuwyd materion yn ymwneud ag ansawdd afonydd a'r heriau parhaus i fynd i'r afael â llygredd o ystyried ei effaith negyddol ar weithgareddau awyr agored.
Trafodaeth gyffredinol a materion i'w nodi
Codwyd y pwyntiau a ganlyn yn y drafodaeth gyffredinol:
· Rôl Grwpiau Trawsbleidiol mewn meysydd eraill wrth gefnogi dull map ffordd, tra’n cynnal galwadau am newid deddfwriaethol mwy hirdymor, a’r cyfle y mae hyn yn ei roi i Grŵp Trawsbleidiol y Sector Awyr Agored.
· Pwysigrwydd ymgysylltu cymunedol a gweithredu cymunedol wrth fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr, gan gynnwys enghraifft Llyn Padarn.
· Darpariaeth ddiogel i farchogion ceffylau oddi ar y ffyrdd a'r angen i gynnal llwybrau ceffylau yn well.
· Ystyried datgarboneiddio mynediad hamdden awyr agored, gan gynnwys gwell darpariaeth gwefru cerbydau trydan, lle na ellir darparu cyfleoedd yn lleol.
· Pwysigrwydd darpariaeth mynediad o safon gan y gallai profiadau gwael (e.e. llwybrau wedi’u blocio) yn gallu digalonni defnyddwyr newydd ac atal defnydd ohonynt yn y dyfodol.
· Byddai defnyddwyr dŵr yn croesawu cyfleoedd pellach i gwrdd â dirprwy weinidogion i drafod yr angen am fynediad y tu allan i'r dynodiadau dŵr mewndirol arfaethedig.
· Mae gwaith ar y gweill ar fframwaith dysgu ar gyfer anturiaethau awyr agored, i gefnogi Cwricwlwm i Gymru.
· Mae ymchwil diweddar gyda phobl ifanc ar addysg ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol wedi dangos bod eisiau gwell dealltwriaeth o fyd natur arnyn nhw, er mwyn ei warchod yn well. Mae hyn yn gwneud mynediad hyd yn bwysicach fyth, ac felly’n hanfodol i greu dinasyddion amgylcheddol.
· Mae gwaith ym Mryniau Clwyd ar ddatblygu cyfleoedd hamdden cynaliadwy wedi dangos bod anghysondebau hanesyddol yn deillio o ymagwedd dameidiog ar draws ffiniau; mae’n amlygu’r angen am ddull strategol o greu mynediad gwell ar garreg y drws.
· Gall grwpiau defnyddwyr fod yn rhan o atebion – mae prosiectau cydweithredol ar y gweill yng Nghymru (e.e. prosiect llwybrau at lesiant) sy’n ymgysylltu ac yn datblygu sgiliau mewn cymunedau, ac sy’n gallu cefnogi rôl awdurdodau lleol nad ydynt wedi cael cyllid cyson i fynd i’r afael â materion.
· Mae yna barodrwydd i gydweithio a rhannu arbenigedd drwy holl aelodau’r grŵp, i symud yr agenda yn ei blaen.
· Mae natur draws-bortffolio materion hamdden awyr agored yn golygu y gall diffyg Gweinidog Awyr Agored penodedig fod yn broblem, ac mae hyn yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ei ystyried yn y dyfodol.
Fe wnaeth y Gweinidog a swyddogion Llywodraeth Cymru ymateb fel a ganlyn i’r drafodaeth gyffredinol:
· Croesawu cynigion y grŵp i rannu arfer da, a diolch i’r aelodau am fewnbwn i’r gwaith diwygio hyd yn hyn.
· Tynnu sylw at ffaith i’r Llywodraeth symud i gylchoedd ariannu 3 blynedd, a rhagwelwyd y byddai hynny’n helpu i fynd i'r afael ag anghysondebau; gwahoddwyd trafodaeth bellach ar unrhyw faterion sy'n weddill yn ymwneud â hyn.
· Gallai deddfwriaeth anuniongyrchol gynnig cyfleoedd i ymgorffori materion diwygio mynediad.
· Awgrymu’r cynllun mannau lleol i fyd natur fel llwybr ariannu posibl ar gyfer rhai camau gweithredu.
· Crybwyll bod y llywodraeth yn awyddus i weithio gyda Pharciau Cenedlaethol i wella mynediad i dir cyhoeddus ac mae gan y Grŵp Trawsbleidiol rôl i roi adborth ynghylch a yw hyn yn digwydd.
· Awgrymu bod y gynhadledd plymio dwfn o ran bioamrywiaeth yn gyfle i’r Grŵp Trawsbleidiol i roi mewnbwn ar bwysigrwydd rhwydweithiau mynediad a chysylltiadau â byd natur.
· Annog ystyriaeth barhaus o effaith amddifadedd cymdeithasol ar fod yn gysylltiedig â byd natur, a'r angen i wella cyfleoedd addysgol.
· Cadarnhau y byddai rôl barhaus i'r Grŵp Trawsbleidiol ddylanwadu ar y ffordd y caiff mynediad ei reoli yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Wedi i’r Gweinidog adael y cyfarfod, codwyd y pwyntiau a ganlyn:
· Y cyfle – ond heriau o ran capasiti – i rywun o fewn y Grŵp Trawsbleidiol i fwrw ymlaen â’r her o ddatblygu’r map ffordd.
· Awgrym y gallai cronni cyfraniadau ariannol ar gyfer trefniadaeth defnyddwyr hwyluso adnodd pwrpasol i gefnogi'r gwaith hwn.
· Gallai cynllun peilot posibl ganolbwyntio ar ddefnydd a rennir a bod yn agos at gartrefi pobl er nwyn gwneud gwahaniaeth.
Camau i’w cymryd yn sgil y cyfarfod
CAM I’W GYMRYD: Llythyr i'w ddrafftio gan y Cadeirydd i gyflwyno cynigion ffurfiol ar gynllun peilot tir cyhoeddus i'r Gweinidog.
CAM I’W GYMRYD: Ychwanegu ystyriaeth at yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf, o adnoddau ariannu i archwilio’r hyn y gellir ei wneud yn awr, a chytuno ar ffordd ymlaen.
Y cyfarfod nesaf:
Dyddiad ac amser:Dydd Iau 15 Medi 2022, 11:00 – 12:30
Lleoliad: Canolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms, Libanus, Aberhonddu, LD3 8NL ynghyd â chyfleusterau hybrid.
Rhithwir Linc ar gyfer Zoom: https://us02web.zoom.us/j/83670789288?pwd=cdKL14SWmVxp2kcpDtCfd43RD7F5EV.1
Cyfeirnod y cyfarfod:836 7078 9288 Cyfrinar: 794399